Tuesday 12 January 2016

Prototeipio, arolygu, arsylwi a data – sut mae tystiolaeth defnyddwyr yn gwella’ch gwasanaethau?


 
 
Bydd Andrew Lewis o Amgueddfa Victoria & Albert (V&A) yn ystyried sut y gallwch ddeall eich defnyddwyr mewn ffyrdd a fydd yn arwain at greu gwasanaethau digidol sy’n ystyrlon iddyn nhw. Gan ddefnyddio enghreifftiau o wasanaethau byw a ddatblygwyd gan dîm Cyfryngau Digidol y V&A, bydd yn edrych ar sut y gallwch gefnogi egwyddorion dylunio defnyddiwr-ganolog yn ymarferol drwy gynllunio sut y byddwch chi’n casglu ac yn cyflwyno tystiolaeth ynghylch eu heffeithiolrwydd.
 

 
Bydd Andrew yn dangos sut y bydd profi iterus ac arsylwi defnyddwyr syml gyda phrototeipiau yn helpu i sicrhau nad yw sefydliadau’n buddsoddi’n ddamweiniol mewn nodweddion neu hyd yn oed gwasanaethau cyfan nad oes eu hangen. Bydd yn dangos hefyd sut y bydd gweithredu’n feddylgar ddulliau cipio data ymddygiadol yn eich galluogi i weld sut mae defnyddwyr yn defnyddio eich cynhyrchion digidol mewn gwirionedd. Bydd yn esbonio sut mae’r strwythur a ddewiswch ar gyfer cipio data am ddefnyddwyr yn effeithio ar ba mor effeithiol y gallwch ei adrodd a’i gyflwyno o fewn eich sefydliad, gan ganiatáu i chi ddylanwadu’n well ar newidiadau buddiol wedi’u seilio ar dystiolaeth gref.


Rhai enghreifftiau fydd: sut i gymharu cymhelliant blaenorol ag ymddygiad gwirioneddol ar y safle; sut i fesur pa mor ddefnyddiadwy yw dyluniadau rhyngwyneb mewn gwirionedd, y tu hwnt i ba mor dda maen nhw’n edrych ar bapur; sut mae lleoli a geirio galwadau-i-weithredu yn effeithio ar ddefnydd; pa ystumiau mae pobl yn eu defnyddio ar ddyfeisiau cyffwrdd; faint o amser mae pobl yn ei dreulio ar rannau sain eich dehongliadau; beth mae pobl yn ceisio ei gyrchu mewn gwirionedd dros eich Wi-Fi a llawer mwy.

 

 

No comments:

Post a Comment