Tuesday 19 January 2016

Cijferboek Cultureel Erfgoed, Arolygu a Monitro Treftadaeth Ddigidol yn Fflandrys


Cynllun o eiddo Asiantaeth Celfyddydau a Threftadaeth Llywodraeth Fflandrys a FARO: Y Rhyngwyneb Ffleminaidd ar gyfer Treftadaeth Ddiwylliannol yw Cijferboek cultureel erfgoed (cyfieithiad llythrennol: llyfr ffigurau treftadaeth ddiwylliannol). Mae’n casglu ffigurau ddwywaith y flwyddyn am weithrediad amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd treftadaeth awdurdodedig (y rhai sydd â label ardystio). Mae’n cynnwys data am y drefn reoli, staff, gwirfoddolwyr, adnoddau ariannol, isadeiledd, maint y casgliad a’r dull o’i reoli, gweithgareddau, amodau mynediad, nifer yr ymwelwyr a gwasanaethau.

Bydd Bert de Nil yn trafod sut mae’r data hwn yn ei gwneud hi’n bosibl i’r sector treftadaeth ddiwylliannol gael ei monitro gyda chymorth ystadegau manwl gywir a sut y gall fod yn sail i bolisi a chynnal treftadaeth ddiwylliannol.

Rhai dangosyddion sylfaenol yw cofrestru, digido a hygyrchedd ar-lein casgliadau treftadaeth, ac ers 2014, data am gasgliadau o darddiad digidol (perchenogaeth, cofrestru a hygyrchedd ar-lein), rheoli treftadaeth ddigidol (ariannu, defnyddio staff a gwirfoddolwyr, lledaenu a defnyddio data, data agored, archifo digidol). Mae rhai cydrannau wedi’u seilio ar yr arolwg ENUMERATE.


Trefnir yr arolwg hwn bob dwy flynedd gan FARO. Yn ogystal â’n galluogi i fonitro datblygiad y sector treftadaeth ddiwylliannol gan ddefnyddio ffigurau cyfoes, gallwn feincnodi’r sefydliadau a chyrff treftadaeth. Mae’r holl ddata ar gael i’r cyhoedd ar y wefan: www.cijferboekcultureelerfgoed.be

No comments:

Post a Comment