Tuesday 26 January 2016

Dronau Technoleg Uchel ac Arddangosfeydd Ymgollol – Manteisio ar Dechnolegau Newydd ar gyfer Treftadaeth Ddigidol


Fydd hi ddim yn syndod i chi glywed bod Realiti Rhithwir (VR), Realiti Estynedig (AR) a thechnolegau system ddi-beilot (UxV) megis dronau ar gael ar raddfa ehangach erioed i ddiwydiant, ymchwilwyr a hobïwyr fel ei gilydd. Mae rhai yn credu bod y cynnydd mawr mewn cynhyrchion technoleg uchel fel y rhain yn fygythiad i gymdeithas ar lawer lefel. Fodd bynnag, o safbwynt treftadaeth ddigidol neu rithwir, ac yn y dwylo iawn, maent hwy hefyd yn cynnig posibiliadau cyffrous a mwyfwy fforddiadwy o ran datblygu a darparu profiadau addysgol cyfoethog a rhyngweithiol ar gyfer amrywiaeth eang o ddefnyddwyr terfynol a chynulleidfaoedd.

Yn y cyflwyniad hwn, bydd yr Athro Bob Stone, Cyfarwyddwr y Tîm Technolegau Rhyngwyneb Dynol ym Mhrifysgol Birmingham, yn disgrifio nifer o astudiaethau achos ym maes treftadaeth arforol gan mwyaf a ddatblygwyd yn ystod 2014 a 2015 lle mae technolegau VR, AR a drôn wedi cael eu defnyddio’n effeithiol iawn wrth arolygu ac ail-greu’n ddigidol safleoedd sydd yn aml yn anhygyrch ac wrth gyflwyno’r canlyniadau i ystod eang o gymunedau a phobl o sawl oedran. Mae’r portffolio o astudiaethau achos yn cynnwys safleoedd llongddrylliadau’r SS James Eagan Layne (Whitsand Bay, 1945); Llong Danfor A7 Ei Mawrhydi (Whitsand Bay, 1914); y Maria (Firestone Bay, Plymouth 1774) – lle cafwyd yr achos cyntaf o danforwr yn colli ei fywyd; llongddrylliadau Llyn Hooe yn Plymouth; cynefin is-for cyntaf y DU – y GLAUCUS (1965) – sydd bellach yn sgerbwd rhydlyd ger Breakwater Fort yn Plymouth; a phrosiect llongddrylliad yr Anne (1690), lle cafodd llong hanesyddol ei hatgyfodi’n ddigidol am y tro cyntaf erioed gan ddefnyddio technegau Realiti Estynedig ar fwrdd ‘quadcopter’ a fu’n hedfan dros orffwysfan terfynol y llong ar Draeth Pett Level ger Hastings.




Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a thanysgrifiwch!

No comments:

Post a Comment