Gwaith Croeso Cymru yw marchnata cyrchfannau a lleoedd. Busnes wedi’i arwain gan gynnwys yw hyrwyddo a gwerthu lleoedd ac, os meddyliwch am y peth, mae yna wlad gyfan sy’n creu, yn curaduro ac yn rhannu cynnwys gwych am Gymru.
Ond sut mae manteisio i’r eithaf ar yr hyn a all fod yn ecosystem gynnwys rymus iawn i helpu i gyflawni amcanion marchnata penodol?
Mae gan Jon Monroe, Pennaeth Arweinyddiaeth Ddigidol Croeso Cymru, brofiad ac arbenigedd yn deillio o fyd cystadleuol teithio a thwristiaeth, ac o arwain tîm digidol Croeso Cymru. Gan ddefnyddio astudiaethau achos diddorol bydd yn egluro ymagwedd y tîm at farchnata digidol wedi’i arwain gan gynnwys, gan ddangos canlyniadau’r ymdrechion hyn, trafod rhai o’r gwersi ymarferol a ddysgwyd ac amlinellu sut gallai hyn gael ei gymhwyso at safleoedd twristiaeth a thwristiaeth treftadaeth.
Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn a thanysgrifiwch!
No comments:
Post a Comment