Friday 22 January 2016


Byddwch cystal â nodi mai Dydd Gwener, 5 Chwefror fydd y dyddiad olaf ar gyfer bwcio lle yn y gynhadledd drwy Eventbrite. Cost y cynhadledd yw £89
Mae nifer cyfyngedig o stondinau Arddangos neu Boster ar gael i’w llogi am y ddau ddiwrnod.

Mae Gorffennol Digidol yn denu cynadleddwyr o bob rhan o’r DU a thu hwnt ac mae’n cynnig cyfle perffaith i chi arddangos cynnyrch eich cwmni neu sefydliad i gynulleidfa wybodus a gwerthfawrogol. Mae stondinau Arddangos mawr ar gael am £215 a stondinau Poster am £165 ac mae’r prisiau hyn yn cynnwys cost un cofrestriad cynhadledd sy’n werth £89 (nid oes angen talu TAW). Gellir eu bwcio nawr drwy EventBrite.

Cynhelir cinio cynhadledd tri-chwrs yn Ystafell Wedgewood yng Ngwesty Saint George gyda’r nos ar 10 Chwefror. Bydd hyn yn rhoi cyfle i gynadleddwyr rwydweithio, cyfnewid syniadau a thrafod themâu’r gynhadledd. Cost y cinio yw £33, a gellir bwcio drwy Eventbrite.

No comments:

Post a Comment