Darlithydd ac ymchwilydd ym meysydd diogelu adeiladau a
graffeg gyfrifiadurol yn Sefydliad Technoleg Dulyn yw Dr Maurice Murphy PhD,
MPhil. Mae’n Aelod o Gymdeithas Siartredig y Peirianwyr Adeiladu. Mae ei
brofiad o arolygu a diogelu adeiladu yn ymestyn dros gyfnod o 30 mlynedd a
rhagor ac mae ef wedi arwain a chymryd rhan mewn sawl rhaglen wedi’i noddi gan
yr UE ym maes Treftadaeth Ddiwylliannol Ddigidol.
Bydd Maurice yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2016 yn
siarad am Fodelu Gwybodaeth am Adeiladau Hanesyddol (HBIM), proses lle mae
synhwyro o bell yn cael ei ddefnyddio i wneud arolwg o adeiladwaith hanesyddol
cyn mapio gwrthrychau parametrig sy’n
cynnwys cyfoeth o wybodaeth ar fframwaith geometrig sy’n seiliedig ar ddata’r
arolwg. Defnyddir iaith ddisgrifiadol geometrig i adeiladu’r gwrthrychau
parametrig sy’n cynrychioli’r elfennau pensaernïol, a seilir y gwrthrychau hyn
ar ddogfennau pensaernïol hanesyddol (rheolau pensaernïol a gramadegau siapiau).
Hefyd caiff y rheolau a gramadegau hyn eu defnyddio i fodelu rhannau o’r
adeiladweithiau er mwyn cyflymu ac awtomeiddio rhannau o’r broses. Gall y model
HBIM sy’n cael ei gynhyrchu o ganlyniad gael ei ddefnyddio i gynhyrchu’n
awtomatig ddogfennau cadwraeth a dadansoddiadau o adeiladweithiau hanesyddol, yn
ogystal â delweddaeth.
Bydd y prosiect i ddatblygu’r system gofnodi a dogfennu
brototeip hon yn cael ei hegluro drwy gyfrwng astudiaethau achos o waith ar y
Four Courts a Henrietta Street yn Ninas Dulyn. Bydd yr adeiladau clasurol
hanesyddol hyn yn dangos sut mae’r prosiect yn creu system ar gyfer diogelu,
cynnal a rheoli adeiladau hanesyddol.
No comments:
Post a Comment