Mae cofrestru ar agor!
Cewch gofrestru yn awr ar
gyfer y gynhadledd Gorffennol Digidol, a chan fod nifer cyfyngedig o leoedd
fe’ch cynghorir i gofrestru’n gynnar.
Gellir bwcio tocynnau deuddydd
i gynadleddwyr drwy Eventbrite am bris o £89, sy’n cynnwys cinio a lluniaeth.
Byddwch wedyn yn gallu mynychu’r amrywiaeth eang o sgyrsiau, trafodaethau,
gweithdai ac arddangosiadau sydd ar gael yn ystod y ddau ddiwrnod, a gynhelir
mewn awyrgylch cyfeillgar ac anffurfiol a fydd yn hybu cyfnewid syniadau ac yn
hwyluso rhyngweithio. Hefyd fe fydd cyfle i gymryd rhan yn y ‘Sesiwn
Anghynhadledd’ yn ystod y prynhawn cyntaf. Nod y sesiwn hon yw galluogi
cynadleddwyr nad ydynt ar yr amserlen ffurfiol i roi cyflwyniadau ar
brosiectau, ymchwil, syniadau neu faterion o fewn neu y tu allan i themâu
penodol digwyddiad eleni.
Hefyd mae stondinau
arddangos o ddau faint ar gael i’w bwcio. Bydd y rhain yn rhoi cyfle i arddangos
prosiectau neu gynhyrchion mewn man canolog.
Yn olaf, gallwch roi archeb
ar gyfer cinio’r gynhadledd a gynhelir yn Ystafell Wedgewood yng Ngwesty St
George ar noson y 10fed. Bydd pryd tri chwrs blasus, wedi’i baratoi gan eu
cogydd arobryn, yn cael ei weini am 7 o’r gloch.
Edrychwn ymlaen at eich
gweld chi yn Llandudno!
No comments:
Post a Comment